OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2016 Rhif 91 (Cy. 44)
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio) 2016
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn cywiro gwall yn nhestun Cymraeg Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012 (O.S. 2012/793 (Cy. 108)).
Ni luniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn, gan na fydd yn effeithio ar y costau na’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2016 Rhif 91 (Cy. 44)
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio) 2016
Gwnaed 27 Ionawr 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1 Chwefror 2016
Yn dod i rym 1 Mawrth 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 10, 74, 82 a 93 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990([1]) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy([2]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1)(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau
Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio) 2016 a deuant
i rym ar 1 Mawrth 2016.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012
2.—(1)(1) Mae testun Cymraeg Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig
ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012([3]) wedi ei ddiwygio fel a
ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3(1) (ceisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd ardal gadwraeth) mewnosoder “gais am” o flaen y geiriau “ganiatâd adeilad rhestredig”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
27 Ionawr 2016
([1]) 1990 p. 9. Diwygiwyd adran 10 gan adrannau 42 a 118 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5) (“Deddf 2004”). Diwygiwyd adran 74(1), (3) a (4) gan adran 63 o Ddeddf Menter a Diwygio Rheoleiddio 2013 (p. 24). Diwygiwyd adran 74(3) hefyd gan O.S. 2006/1281. Nid yw'r diwygiadau i adran 82 yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Diwygiwyd adran 93(1) gan adran 78 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) a pharagraff 33 o Atodlen 10 iddi, a mewnosodwyd is-adrannau (6A) a (6B) gan adran 118 o Ddeddf 2004 a pharagraffau 19 a 26 o Atodlen 6 iddi.
([2]) Trosglwyddwyd swyddogaethau o dan yr adrannau hynny, i'r graddau yr oeddynt yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau hynny yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru.